Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

Communities, Equality and Local Government Committee

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Jeff Cuthbert AC

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

 

Bae Caerdydd

 Caerdydd

CF99 1NA

                                                            

                              

 

26 Mehefin 2014

 

 

 

Annwyl Weinidog

 

Sesiwn graffu yn ystod y flwyddyn - cais am ragor o wybodaeth yn dilyn y cyfarfod ar 19 Mehefin

 

Diolch am ddod i'n cyfarfod ar 19 Mehefin 2014 i roi tystiolaeth fel rhan o'n rhaglen craffu ar waith y Gweinidog yn ystod y flwyddyn. Yn ystod y sesiwn, gwnaethoch gytuno i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda'r wybodaeth a ganlyn:

·         manylion am y canllawiau a roddwyd i awdurdodau lleol fel rhan o'u gwaith craffu ar y sawl sy'n derbyn grantiau Cymunedau'n Gyntaf;

·         manylion am unrhyw gynnydd yn ffigurau aelodaeth yr Undeb Credyd ar ôl ymgyrch farchnata Llywodraeth Cymru.

Yn ogystal â'r uchod, byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar o gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:

·         manylion am argaeledd tebygol dangosyddion perfformiad ar gyfer Cymunedau'n Gyntaf;

·         manylion am y trefniadau ar gyfer monitro'r tanwariant a gofnodwyd ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol;

·         adroddiad cynnydd ar ddatblygiadau mewn perthynas â'r Credyd Cynhwysol;

·         gwybodaeth am dargedau aelodaeth yr Undeb Credyd.

 

Edrychaf ymlaen at glywed gennych yn fuan.

 

Yn gywir

Christine Chapman AC

Cadeirydd